27/11
ges i ateb n ol o’r bbc, dwy ddim yn cael gwneud y rhaglen digfen amdano ford ac emanuel. nid oeddwn yn disgwyl unrhyw arall, ond yn eu ebost ma nhw mor ‘disingenuous’, yn dweud bod podcst y bechgyn ddim o dan cyniatad y bbc neu rhyw lol fel ‘ na. NID oeddwn erioed wedi dweud y basen i yn ffocysu ar y podlediad!!! ma’r bobl yma, gweinyddion sifil, yn siarad unryw rwtsh pan mae’n dod at wrthod rhywun. cofio radio 4 yn dwseud ‘ not nuanced enough’ amdnao syniad arall oedd gen i , nuanced? sut ma nhw’n gwbod hyn cyn gweud y rhaglen?? contiau ydynt. Ond eto mae’n ysbrydoli fi i wneud y rhaglen ar liwt fy hun – er nid wyf yn chware’r liwt
fe alwais mewn i weld steffan alun, a chael sgwrd hamddenol gyda fe…
a wedes i bo fi wedi mynd mas am beint gyda nathan, a bwyd tseiniaidd, a hefyd ffilm ‘the Long run’, roedd e’n ffilm wych. ond pam ma’r diweddglo mor anodd i gael yn iawn??
ers i fi sgrifennu dweth rwy wedi actio mewn ffilm fer yn llundain, mwy am hwnna i ddo, roedd e’n brofiad difyr er i mi orfod drifo n’ol adre am 12.30 y nos er mwyn cael y car i mewn i enterprise erbyn 8 y bore. o’n i’n lwcus i gael hwnna oherwydd roedd ‘ na cwsmer arall wedi resyrfio’r car arg yfer y llun, roedd y ffilmio i fod ddigwydd ar y sul ond roedd oedi ar ol oedi….
Penwythnos sy’n dod: bydd tri sioe Scrooge gen i, y cynta y flwyddyn. a mae emily hefyd wedi gofyn i fi ware Scrooge yn ogystal a marley, Duw ‘ma beth yw bywyd actor!
19/11/25
wthnos dwetha ges i alwad i’r BBC yng Nghaerdydd, oherwydd i mi lenwi ffurflen amdano raglen dogfen, fy syniad i oedd rhaglen amdano Simon a Sandro. ar y ffordd n ol o Gaerdydd, wel penderfynnais cerdded o orsaf abertawe adre. ar y ffordd galwais gyda steffan alun. i’m mawr syndod roedd e mewn a gawsom 40 muned pleserus yn swgrsio, gyda te du yn fy llaw…falle taw dim ond 20 muned oedd…pwy a wyr?? rydym wedi bod yn siarad am gwrdd am sbel, ond dyma aduniad hyfryd, a dala lan gyda’r clecs. Siarad cymraeg wrthg wrs, a son amdano CN (sef hanner cont) ymysg pethau eraill.
o’n i wedi prynu pice ar y man ym marchnad Caerdydd…fy ffefrynau…coconut, choc chip ayb.
aeth y cyfarfod gyda pedwar menyw yny BBC yn oreit, ond o bosib camsyniad oedd cymryd tamed bach o ‘edible’ yn y bore. o’n nhw’n hoffi fy syniad ond o’n i ffili dweud llawer ‘specific’ am y peth, jyst siarad yn gyffredinol wnes i. d’on i ddim yn disgwl cyrraedd y llwyfan cynta…dydw i ddim fel arfer. gwrthod fi ma pawb ynte….a finne’n timlo’n flin dros fy hyn…beth base Twm Morris yn gwneud ?
11/11/25
Mae clwb Cu ym Mwmbwls wedi marw, o’r diwedd, wedi mynd….dim mwy y fyddaf yn adloni fan ‘na
28/10/25
wedi ffindo mas mai nant greulon yw Nant Garedig. wp e lan dy din
hydref ’25
chi’n gwbod pwy y chi. syniad fi oedd gwneud sioe gymraeg stand yp yn Nantgaredig. a chi’n hapus i gymryd e i ffwrdd. a rhoi mwy o waith i’r bobl eilradd. paham mae fy ysbryd yn galw mas am ddianghfa, ymhell o fan hyn?
teimlo limerig yn dod
Bob tro dwy’n mynd am sesiwn therapi dwy’n gofyn ar y dechre ‘Pan dan ni’n cario mlaen gyda hwn?’ ‘Pam chi’n gofyn hynny?’ medde’r cownselwr. ‘wel’ medde fi ‘does dim trawmas wedi dod i’r gwyneb ers i ni gycgwyn pum mlynedd yn ol’. ‘ma hynny’n wir’ atebodd y boi ‘felly, pam y chi’n galw fe’n therapi trawma? os nad yw e’n gwitho?’ Edrychodd y boi arna’i a gwenu ‘Wel, efallai bydd e’n gweithio y tro ma..’
________________
Mewn Bistro fe ordrais Clafoutis Ac fe ddaeth gyda saws tutti frutti Mor ffiaidd y blas Bu rhaid cwyno i’r gwas Fel canlyniad ma’r chef wedi pwti.
actiwali – yn wironeddol – fe wnes i goginio clafoitis ddoe, do wir, a blasys iawn oedd hefyd. Fe es allan i fwyara, i hela’r ffrwyth i roi yn y pwdin.
Yly, i ddod n ‘ol atoch ymglyn a beth ddigwyddodd yn wrecsam, na geson ni mo gynulleidfa heblaw am 4 ffyddlonwr. roedd y ddau westai yn broffesiynol iawn : bet hJones ac aled richards. a mwynhais y sioe. ra strydoess wrecsam roedd e fel y bedd. y nwahanol i Bontypridd y flwyddyn blaenorol nid ar gyfyl y dre oedd maes y steddfod, on taith bws i ffwrdd. fe es draw at y gorsag bysie i ddosbarthu flyers, ond heb lot o lwc. the usual twits – dewd joc i ni ac yn y blaen. wedyn chi’n dweud joc a ma nhw dal DDIM yn dod i’r sioe.
_______________________________
mae eleri i ffwrdd a minne yn y ty, gyda car am yr wthnos. (awst 2025). nos iau yma ma gen i gig , i fod, yn Ty Pawb, Wrecsam. gig stand yp gymraeg. pwy a wyr os gawn ni bobl. gobeithio ynte.
Yly, ma gynnom ni yma yng nghymru ddigonedd o dalent, a digonedd o ylys hefyd. gwyliaf pobl y cwm yn ffyddlon, waeth pa noson yw hi fydda i yno. ond dwli noeth ydy hwnna siwr dduw. yn ddiweddar mi sgwennais neges facebook at wynford concord y bos, mae’n ddrwg gen i- SYR wynff….jyst i ddweud wrtho gyment o’ ffan oeddwn. a do fe wnaeth ymateb. waeth sawl gwaith ymatebodd rhywun i’m gofynnion, nid oes cael gwared ar y wefr.
cefais gopi o Rhyddiaith Waldo fel anrheg. Fe’i agorais a dechre’r traethodau cychwynnol. dos o ma cont. ma ‘ na pethe ffraeth yno a be sy’n taro fi fel dychan. mae’n son am effaith awyrylch coleg ar gymeriad y myfyriwr. ac ie. pan oeddwn i ym mhrifysgol manceinion roedd y broses o addysgu yn fwy fel proses o zombifici=ation. nid vacation.
Morris Giblet and the Giblet Seven.
UN peth a wnes i y Gwanwyn yma, (2025) a dwy’n falch fy mod i wedi, oedd mentro mas i gasglu Garlleg gwyllt, neu Craf. Nid yn abercraf – chwedl D’ewyrth – na, ond gerllaw, nepell o’r parc carafanau. mae ‘na llwyth yn tyfu ar lan yr afon. Mynd a bag adre, a mam yn blesd (er bod mam wedi marw ers 1986 – beth sy’n digwydd??) …na o ddifri rwan, fe gymraid baged o’r dail a’u rhoi nhw i fewn i’r ‘bwyd processor’ er mwyn gwneud pesto. Mmm da iawn, blasus ond gyda chic iddo. Dail craf wedi cymysgu gyda pine nuts ac olew olewydd. Ma dau tyb dal gyda fi, yn y rhewgell. tybiaf.
Nepell o’r neilltu ma nepal.
A wedes i’r hanes, rhai misoedd yn ol cefais alwad ffon gan Alun wyn Bevan? Naddo ? Naddo wir? – alright get on with it – ex referee, hails from Crachlwyn ffarm, mynydd y gwrhyd. Dyn ni ddim wedi cwrdd medde fe, actiwali ‘y ni wedi unwaith, ond nid wyf yn berson cofiadwy iawn mae’n wir. O’n i’n gwbod beth odd e moyn….rhywbeth depressing…ch’wel fi’n gwbod bod e’n gweithio i ryw gwmni teledi S4C, a dyna sut gafodd e fy rhif ffon – er i mi ddim gofyn iddo o le gafodd e fy rhif – moyn gofyn stwff ynglyn a fy nghefnder, Iolo, oedd. Iolo y naturiaethwr. Nawr, rwy’n diflasu rhywfaint bod Iolo yn cael ei gysylltu gyda mynydd y gwrhyd shwd gyment. Cofio darllen llyf cymraeg deg mlynedd yn ol, yn son am yr ardal yma, a Iolo yn cael ei ddisgrifio fel ‘Iolo Fforch Egel’. Fforch egel yw’r fferm yng nghysgod capel y Gwrhyd. Ond cael ei eni a thyfu lan yng ngogledd Cymru wnaeth Iolo. Ei Dad Dai, brawd fy mam, a ddaeth o fferm fforch Egel..
Mae’n annoying, ond , yn y pendraw, rhaid cofio mai un o’r Big 4 yw Iolo: Tudur Owen, Elin Fflur , Rhys Meirion a fy nghefnder. Mafia S4C. a rhaid plygu i’r anosgo. Rhyw achlysur, rhyw benblwydd, neu dathliad o yrfa Iolo, Roedd e wedi bod yn sal yn ddiweddar, ond wedi gwneud gwellhad. O ie. Dwy’n cofio nawr: rhaglen o’r Llyfrgell Genedlaethol, lle ma’r ymchwilwyr yn olrhain eich coeden teuluol. Moyn holi am y stori oedd Mr Bevan, y stori am y bachan a rewodd i farwolaeth ar ben MYG. Moyn gwybod lle ei gladdwyd. Na nid moyn gofyn i fi a fydden i eisiau ymddangos fel gwestai ar y rhaglen, o no fear. Ond moyn gwbod os o’n i’n gwybod lle mae i fedd?? Bydde hyn yn gwneud syrpreis bach net i Iolo….Awgrymais mai ym mynwent y Baran oedd….Ond dwedodd Gareth Richards i mi rhai wythnos yn ddiweddara taw actiwali ym mynwent y Gwrhyd mae e. fel i fi fod i wybod, do fe glywais y stori.
Ma popeth wy’n dweud trwy gyfrwng y gymraeg…yn tueddu dod allan fel parydi o ryw fath. nid yw bywyd yn galluogi dyn i ymlacio, felly ymlaen a fi. beth yw fy neges heddi? Wel, clywais am botensial gig gymraeg/gymreig…rhywle yn y gorllewin. Mae ffrind gen i o’r enw Geraint Morris, roedd e’n mynychu ysgol r un pryd a fi, a nawr mae’n feddyg. Llwyddiant yw ei enw canol..neu, efallai, ei ail enw. Pwy a wyr, nid yma i ware gyda semantics ydw i…dwy ddim am fod yn anti-semantig. Ta beth mae Geriant , Gezza – Gezza pwy sy yma? – wedi pasio fy manylion ymlaen i’w ffrind, y ffrind sydd yn rhedeg y lleoliad. Dwedodd wrth y bachan i shecio allan fy ngwefan. Gwefan ?? O na paid gwneud ‘ny. Dwy’n sgrifennu pob math o lol, o rwtsh, o ffycin crap, ar fy ngwefan. Nid adlewyrchiad o’m act gomedi ydyw. Er…
mae’r diffyg anadlu wedi gwella rhywfaint. o bosib, hynny yw yn fy nhyb i, y moddion ar gyfer y prostate sydd wedi ei achosi. ond diffyg Ffolic acid medde’r GP, a dwy wedi bod yn cyflenwi fy hun gyda ‘supplements’ yly
Limerig: Trafferth mewn Restront.
I’r Indian rwy’n amal yn gyrru
er mwyn prynu a bwyta fy nghyri
Ond heno bu ffrae
Ac ar geffyl y bai
Wele ma’n korma’n gweryrru
Felly mae 2024 drosodd, a 2025 wedi cychwyn. Cefais ddau (DAU!) englyn i fewn i’r rhifyn nadolig o Barddas (a rhifyn digidol gyda llaw) – y Blaidd-Ddyn ac un amdano fy enw ‘Noel’.
Rwy’n codi yn y bore dyddie hyn gyda diffyg anadalu. ai sgil effaith rhyw feirws yw?
Heb wneud llawer o gigs y flwyddyn yma hyd yn hyn, dwy am ‘ymddeol’. (Rhy hen i gymryd crap y sircyt gomedi). ond fe wnes i sesiwn gyda gareth richards lawr yn neuadd cyhoeddus Treboeth, teyrnged arall i Dewi Pws.
Ni wnaeth eleri anfon cardiau y blwyddyn yma i’r cymdogion ar y stryd – roedd hi’n dost dros yr Wyl, gyda peswch a phoenydiau. Ond fe geson ni ambell garden gan hwy – a rhyfedd o beth wnaeth gwraig Ian, sydd fel arfer yn sifallu enw eleri fel Hilary ar bob garden, gwneud ymdrech speshal eleni a chael enw hi yn (mwy neu lai) iawn. Ond dim ond ar yr amlen y sgrifennwyd ein enwau, dim tu fewn i’r garden. Doniol oedd sylwi ar olion yr ymgeision mewn pen. Da iawn meddech chi..y peth eironig yw bod carden wedi dod o Anette drws nesa yn cyfarch Noah and Eleri!
Yn fuan ar ol diwrnod blwyddyn newydd dathlodd Anette ei phenblwydd yn 90. aeth fi ac eleri lawr i eglwys yn Nhreforus i gael te a choffi a brechdane gyd gweddill ei ffrindiau.
__________________________________
wedi cael clod gan Twm Morys, Barddas, a’r newyddion y bydd fy englyn i Dewi Pws, – Dewi Moris – yn ymddangos ym mhennod nesa y cylchgrawn anturus.
Cofio Moris y Gwynt, – dwy’n falch ac yn hapus bod y gangen yma o fy nghreadigrwydd yn dechre ffynnu. Gobeithiaf gael mwy i fewn erbyn nadolig. Hefyd dwy wedi anfon ambell englyn i fewn ar gyfer y gystadleuaeth.
Rhaid i fi weithio ar y stwff …
______________
Mewn englyn a sgwennais isod dwy nawr yn sylweddoli bod ‘ na gamsyniad cynghaneddol.
yr englyn, neu y ddwy linell agoriadol, fel yr oedd yw:
Mae’r crofft lan lofft yn celu had – ar glo
Sbo rhag ysbiad
O’n i’n meddwl ar y pryd bod hawl cael cynghanedd yn y toddaid byr, hynny yw cynghanedd sain sy’n ymesrtyn hyd at ddiwedd yr ail linell, ond NA! nid y w hwn y gywir. mae’n wir bod hawl cael cynganedd sain o few y toddaid byr, ond rhaid cael yr odl o fewn y gair cyrch…felly , beth am :
Crofft lan lofft sy’n celu had – ar glo sbo
rhag ysbio’r ynnad.
cans plismon glywodd honiad
bod yr hemp yn rhemp a rhad.
__________________
Crymy? – Crymych o’n i’n meddwl wrth gwrs. dim byd crymy amdano o gwbl. eto, rhyw naws o’r hen fyd…
roedd hwyl fawr i’w gael yng nghlwb Crymy nos wener. fe aeth fy nghaneuon am limerigs i lawr yn wych. yn wahanol i’r gig y penwythnos blaenorol fe wnaeth hon werthu allan yn gyflym. Roedd e ‘chydig bach yn ddiflas bod y sioe ar nos sadwrn y 5ed o hydref wedi cael ei dileu heb gynnig ffi ‘cancellation’, – i gofio bod sioeau yn y gorfeenol ar gyfer Gwyl Comedi Castell Neddi gyd wedi mynd yn eu blaen er gwaetha’r niferoedd bach. Nawr mae’r Wyl wedi lledaenu i Bontaradwe achos gwyl Neath Port Talbot ydyw, Stand Up for Wales ydyw, mwyach. Mae Paul wedi ymestyn ei olygon. Bwciodd ymysg eraill Kiri te kanawa pritchard mc claen…o’n i meddwl bod eddim yn ffan ohoni, plygwn i bwyse cyfalafol.
Ond ylyyy
Da’th bachan o’r brynie afreal
Er mwyn dilyn y trywydd swreal
Fe aeth i Dreboth
Lle yfodd de poeth
Allan o gwpan Seint Greal
__________________________
ma’r englyn dilynnol yn dioddef…Aaawww…ma gwallau ynddo, yn y llinell cynta ma ‘na odl proest. protestaf yn ei erbyn….Personel sy’n bressenol.
Dewi’n y Niwl – Y Doniolwr.
I fi ti oedd y te – y piws ymysg
Pwsmysgedd Cwmtawe.
Rocyn crand, Rhi y bandie.
Ceiriosen tishen ynte.
__________________
Wrth ddywed y gair ‘ynganu’
Ni wyddwn beth i amcannu
Wrth bwysleisio y ‘Ga’
Megis sistym Sol-Ffa
Rwy’n canu am ganu ynGanu.
_____________________
Ynganais y gair ynganu
Heb feddwl am beth ddaiff yfory
Tanlinellais yr ‘Aa’
Fel ym miwsig Shia
Nawr ma ‘nghanu’n ynGanu’n uncanny
_____________
Ai yNGanu neu ynGanu gwed – P’un
Sy’n pwno’r iawn darged?
Mae’n ramadeg i’r Egghed
Pan aeth sbel wan’iaeth ar led
_______________
drifo yn y car a gwrando ar shan cothi yn gofyn am limerigau. dwy’n creu un ac yn ei hala i fewn. ond nid yw’n cael ei darllen, beth yw hyn? ma hanner y limerigau sy’n ymddangos yn ‘c&&&&ch’ yly….a dyw hanner nhw ddim yn dilyn rheolau y medr. sori…bach o hwyl ydyw. dyma fy ymdrech i, gyda’r llinell gynta wedi ei rhoi gan y BBC (mor hael):
Rhwng a y gwynt a’r glaw fi ‘di danto
Felly fe es i weld panto.
Ond roedd y stori yn wael
Heb elfen o haul.
R’un man i fi wisgo fy amdo.
(NEU – A’R DEIALOG YN DRIST MEGIS CANTO)
_____________________________________________________
Fe es gyda clwb ffilm Taliaris
I wylio’r sci-fi Solaris
Ond bu siom yn y Roxy
Nid y gwreiddiol Tarkovsky
Am hwnna bu rhaid mynd i Baris.
_______________________
heb gael fy nhalu am yr isod eto (Radio). na chwaith am ‘medical role play a wnes i tua mis yn ol. roedd hwnna’n eitha diflas, jyst ymateb i gwestiynau.
____
Bore dydd Sul o’n i ar Radio Cymru. out of the blue fe ddaeth yr alwad i wneud cyfweliad gyda Elliw, menyw bwysig o fewn y gorfforaeth. Pwy oedd y cynhyrchydd ond fy hen – ac ifanc – ffrind, Gruff Pritchard.
Yr un hen naratif oedd sail y sgwrs. Noel James, comediwr. oce. fe es i gyda fe. wedi’r cyfan mae’n gyfle i fi ymhelaethu ar fy stori, ond o hyd o fewn cyfyngderau cul. Gofynnais tua diwedd y sgwrs ‘ be am siarad am horror films nawr?’ ond wrth gwrs fe golygwyd y cyfan, beth ma golygu yn golygu ? Mae’n bryd i ni gael golygiad. Fe gefais ambell sylwad caredig gan ffrindiau, bod y sgwrs yn swno’n dda. Mae’n debyg bod John Ifans, Mr Evans fy nghyn athro Cymraeg, – Jon Bach – wedi cwyno mod i heb son am y cynhyrchiad o’r Cybydd gan Moliere a wnaethom yn Ysgol gyfun yn yr 80au.
Nid oeddwn yn rhy ddiflas fel siaradwr, ond dwy meddwl mae dyna’r tro olaf y byddaf yn siarad am fod yn gomediwr ar y radio. Beth am ddadansoddi elfennau eraill o’m persenoliaeth ? Y Jekyll a Mr Cuddio.
Fe bum yn Aberystwyth at y Sadwrm dreifias i lan Constitutiuon Hill er mwyn perfformio o flaen y piodennau, the magpies, sef tim peldroed Bow Street. Basen i byth yn medru llwyddo o flaen y fath gynulleidfa 6 mlynedd yn ol. Ond dwy’n well nawr ar ddarllen y stafell.
ond yn ol i’r naratif. Un cwestiwn gofynnodd Elliw oedd beth yw’r gwahaniaeth rhwng perfformio comedi yn y gymraeg a’r saesneg. wel, be allen i wedi son amdano yw’r ffaith nad wyf yn ddigon rhugl i fyrfyfyrio ar lwyfan, yn enwedig o flaen cynulleidfa chwareus, neu crowd bywiog. Hynny yw, er mod i’n cyfrif fy hun yn rhugl yn y gymraeg, ac er bod cynulleidfaoedd Cymraeg yn gyffredinol yn heddychlon ac yn gyfeillgar…fel arfer…ac er mod yn trial gwenud pethe lan o dop fy mhen..
O gwrandewch arno fe..rhugl myn uffarn i! wel , ti’n gallu siarad …
Wel ydw. ond pan delio gyda heclyrs ma angen cael yr ymatebion yn syth ar flaen dy tafod. Nid ydw i yn ddigon da i gynnal y fath sefyllfa yn y gymraeg. Improfeisio ie!
Ond, wyt ti wir yn disgwyl i gynulleidfa Cymraeg gynnwys heclyrs ? NA. Fel fi’n dweud ma’r posibilrwydd yn fechna, mae’n prim digwydd. Ond wedi dweud hynny fi’n cofio Garmon yn herio fi tra o’n i ar lwyfan Steddfod gen 2018/19. Tae’r bobl ifanc sy fel arfer yn dilyn gigs cerddorol yn dod , yn lle hynny, i gigs comedi…yna dwy’n credu base natur ymddygiad y cynulleidfa Cymraeg yn newid.
wedi dweud hynny, o bosib, ar gyfartaledd, nid yw’r bobl yn y cynulleidfa cymraeg yn fwy rhugl eu iaith na finne, y digrifwr ar lwyfan. Onid hwnna yw natur ein diwylliant dwyieithiog yn y wlad hon? Ein ffawd. Dim ond ymarfer yr iaith fydd yn creu rhuglder ymysg pawb. Yn yr ystyr hynny mae’r gelfyddyd – os mae celfyddyd yduw – yn adlewyrchiad ac yn fesuriad o ddatblygiad yr iaith.
does dim dyfodol i stand yp cymraeg os nad yw’r bobl yn medru’r iaith, oherwydd rhaid deall ystyr geiriau’r comediwr er mwyn ffindo fe’n ddoniol.
Fe fues o flaen cynulleidfa y Noson Lawen (y fersiwn teledol) cwpwl o weithie lle oe’dd e’n amlwg mai dim ond yno i wrando ar y cantorion oedd y gynulleidfa. Yn wir, nid oeddynt, yn gyffredinol, yn medru’r iaith. efalali mai dysgwyr oeddynt. Fel canlyniad bu rhaid i fi, y digrifwr ar lwyfan, gadael seibiau gan esgus mai fan’na oedd y chwerthin yn digwydd. wrth gwrs, tase’r cemni teledu eisie gallsent wedi rhpi swn chwerthin i fewn, gollwng e mewn nawr ac yn y man. Hunllef yn wir – ai dyna dyfodol comedi sefyll lan Cymraeg? stand up cymredy yn wir…
wel diolch yn fawr Elliw am fpod yn westai ar y sioe heddi. A nawr y tywydd gyda Gruff Pritchard.
Ma’r crofft lan lofft yn celu had – ar glo
Sbo rhag ofn ysbiad
Gan Plismon glywodd honiad
bod yr hemp yn rhemp a rhad.
Mireinir y mariwana – mewn cwtsh
lle mae’n cytsho’n ara’.
Er attig fy mhlanigfa
mae’n cynnal wal o wair Ha’.
heb olau dydd ond bylb LED – Hon
A orchmynna’r gwyrddni
Ymddangos cyn bo’i nosi.
FFrwyth Eden o’r nen i ni.
___________________________________
Ma’r crofft lan lofft yn celu had – ar glo
Sbo rhag ofn ysbiad
Gan plismon glywodd honiad
Bod yr hemo yn rhemp a rhad.
_______
the bitter pill is making me ill
but swallow it i must
and when all this is over I’ll wake up sober
To find your words becoming dust
______
f’ Annwyl id
(neges o’r to i’r boi dan glo)
________
uwch-ego: helo sut hwyliau ? – eisie
asio meddyliau
wy fi, fel y cawn gryfhau
y byd ‘da’n ymwybodau
_______
ymwybod yw, heblaw am ryw, rhi – ffrwyth
mwya Freud, theori
heb ei ail, a sail y si
taw ego wnelo eli
____________________________________
Diweddariad….
Crofft lan lofft sy’n celu had – Ar glo
‘Sbo rhag ofn ysbiad
Gan Bil sy moyn ymchwiliad
Canys hemp mae’n rhemp a rhad.
____________
blwyddyn newydd Dda 2023.
dyma englynion newydd:
Yr Ardd Uchel.
Mireinir mariwana – mewn dau rych
Ma’n drychid fel gwair Ha’.
Er attig fy mhlanigfa
Ffrwyth Eden o’r nen a wna.
_____________
Crofft lan lofft sy’n cynnal had – lloches
A’r llechi yn guddiad
Rhag plismyn syn di-syniad.
Hwre hemp, yn remp a rhad.
Wedi llwyddo i gyrraedd tudalennau y cylchgrawn Barddas. fi oedd y gwr gwadd – hynny yw, the mole man. daeth hyn i lawr yn hap, oherwydd bod Alan LLwyd wedi hoffi englyn a’i anfon at Twm Morys (y golygydd). (IONAWR 2022)
Yr Annweladwy.
Lloches yw’r NHS yn awr – Cofiwn
Ers covid mor werthfawr,
Er didor pwyse’r oriawr,
Gwaith nyrsys fyrsys haint fawr.
Cofiwch y Werin (Twrist attraction)
Yno y saif crair oes wen – trigolyn
Cantre Gwaelod amgen.
Fe glywi si gwarth a sen
Ei llwch mewn geiriau llechen.
___________________________________
R’ol long haul ma’r haul yn hir
__________________________
Duuuwww ‘na ble o’n i
Yn y doc, o flaen fy ngwell, ar Ionawr 21in 2021. Yn amddiffyn fy hun, yn y Gymraeg, – wel nid amddiffyn fel y cyfryw; o’n i’n pledio’n euog ac yn derbyn y dylen i gael fy ngwahardd rhag gyrru fy nghar. wedi’r cyfan cefais fy nal yn drifo’r modur heb yswiriant.
Ond roedd i fi ddadlau am drugaredd hynny yw ‘leniency’ pan ddaeth at hyd y gwaharddiad.
ym mis Rhagfyr o’n i wedi bod i weld cyfreithiwr am gyngor – 30 muned am ddim. Dwedodd y bachan y base’n talu tua £700 o bunnoedd am gymorth gyfreithiwr – shepach nag o’n i’n rhagwled – ond mai dim ond yno i ‘ddal fy llaw’ y base fe. |Hynny yw, nod oedd y cyfreithiwr yn gweld ffordd allan o gael gwaharddiad yn para o leia 65 mis. Y broblem oedd fy mod eisoes wedi mynd i fyny at 18 pwynt ar fy nhrwydded, ac ar ben hynny ro’n i wedi defnyddio fy ngwaith fel dadl ar gyfer trugaredd n’ol ym mis Awst (gwelwch fy mlog Saesneg).
Felly penderfynnais fynd mewn i’r llys ar ben fy hun a dadlau dros fy hun. Ta beth nid oedd y cyfriethiwr yn medru gwarantu y base fe’n gallu ffindo rhywun a oedd yn medru’r Gymraeg.
Am ryw reswm, rown i’n teimlo bod cynnal fy achod trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig. Wedi’r cyfan dan ni’n byw mewn gwlad ein hun gyda iaith ein hun, a mae gynnom ni’r hawl i’w defnyddio o fewn llys y gyfraith. Anhygoel ! ‘Wp e lan dy din Hari’r Wythfed !!
Ta waeth am honey….doedd gen i ddim lot i ddefnyddio fel rheswm i gyfyngu fy ngwaharddiad i’r ochr llai. Ond mae’n wir fy mod yn dioddef o iselder, a mae gen i babur oddiwrth y doctor i brofi hynny, ynghyd a’r tabledi Duloxetine. Un y diwrnod. Felly pan ges i fy ngwahodd i fewn i’r doc roedd gen i rhyw fath o anerch yn fy mhen.
Diolchais i’r ddwy ynad am gynnal yr achos yn y Gymraeg.
Ymddiheuriais am dorri’r gyfraith.
Dwedais fy mod tyn derbyn y dylwn gael waharddiad, ond gan fy mod yn dioddef o iselder y base cadw’r ban yn fyr yn galluogi fi i fynd n’ol allan yn y car sydd yn iachus i’r meddwl hynny yw mae gyrru car yn rhoi rhyddid i ddyn.
Cyn i’r achos ddechre, ar y cychwyn, gofynnais i’r ddwy ynad sut y dylwn i gyfeirio atynt – how do i address the magistrates? ‘Yn neis’ dwedodd un…cyngor gwych.
Felly, y dedfryd – gwaharddiad o dri mis….iawn gwych, alla i fod yn ddiolchgar. Cefais fy nhreto yn deg. Yn ei chasgliad dwedodd y fenyw – ymysg pethau eraill – bod hi wedi, ar ol gwrando ar fy nadl, cytuno y bydde cael drifo yn ‘therapi’ – ei gair hi. Wel o’n i’n hapus bod ‘Madam’ wedi deall yn iawn beth o’n i’n trial dweud.
Wy’n mwyfyd lan i’r Gwrhyd
Wy’n mwfyd lan i’r Gwrhyd
I flasu awyr Nef
I gerdded erw Duw
ac i glywed swn y bref
Gwyliais
ffilm arall, eto ‘B-movie’ o’r pumdegau. Ei enw ydy ‘It! The Terror from beyond space’. Digwydd i mi ddod ar draws y teitl un diwrnod tra’n fflitio trwy Wikipidia. Beth sy’n drawiadol am y ffilm – wel ma cwpwl o bethe – er ei bod yn ffilm cymharol rhad o ran safon cynhyrchu mae’r ffordd y gai ei saethu yn effeithiol; mae ‘na densiwn a ‘suspense’ yn dod allan o sefyllfa claustrophobig criw o wyth ar long gofod sy’n dychwelyd adre o’r blaned Mawrth. Nid yw’r deialog yn wael, ac er bod y bwystfil yn amlwg yn ddyn mewn siwt rwber mae’r shots ohono yn cael eu cyfyngu o ran ongl a datgeledd.
Beth sy’n hollol wefreiddiol i mi – yn enwedig gan nad oeddwn i, rhywun sy’n hoffi meddwl ei fod yn ‘buff’ brwd, erioed wedi clywed hyn o’r blaen – yw’r ffaith mai dyma’r ffilm ag ysbrydolodd Alien. Ieee mae Alien yn ‘remake’ !! Yn gwmws fel The Thing o 1982 mae Alien yn cymryd elfennau sylfaenol allan o ffilm gwreiddiol a wnaethpwyd dauddeg o flynyddoedd gynt, ac yn adeiladu arnynt.
Ma’r ffilm i’w weld ar y we, ac annogaf chi i’w watsio. Fel fersiwn gynta o Alien ma llawer o bethau da yn taro’r gwyliwr, pethau sy’n gyffredin i’r ddau ffilm e.e. yr olygfeydd yn y gegin gofod lle ma’r criw yn cymdeithasu a bwyta; y ffaith bod ‘na ddwy fenyw yn aelodau o’r criw; y ffordd ma’r bod estron yn cuddio ar hyd y llong, yn enwedig o fewn shafftiau y sistem aer; y modd mae’r – SPOILER ALERT – creadur yn cael ei ladd; a’r ymdrech mae’n cymryd i anafu y creadur: mae sawl modd confensiynol o’i ladd yn profi’n aneffeithiol.
Fe’i wnaethpwyd ym 1959, a fel fi’n dweud, o’n i’n rhyfeddu bod y perl diddorol yma yn bodoli yn ddiarwybod i mi.
Gyda llaw dwy’n eitha siwr nid yw It!The terror from beyond space yn cael unrhyw gredit yn swyddogol o fewn rhestr credits Alien, ond ta beth am hynny mae’n ffilm werthchweil, ac i fi mae’r tebygolrwydd yn amlwg!
Dwy’n ffan fawr o It! ac hefyd The Thing…yn amlwg rwy’n un sy’n ymddiddori yn y pethe
Dwy heb sgrifennu rhywbeth ers tro…
‘Sgen i ddim byd o werth i ddweud. Rwy’n llawn chwerder, rhy llawn ohono ar brydiau. Mae e fel rhyw ‘default setting’ yn fy meddwl, hynny yw, nid fi sydd eisie bod yn chwerw, jyst mod i yn dihuno gyda difaru ar fy meddwl . – Lle mae Dr Rhys Bevan-Jones pan mae angen e ? – beth yw’r gair cymraeg am regrets? ‘Difarion’?
Weles i ffilm o’r enw The Maze. B movie o’r pumdegau ydoedd. Roedd ynddi rhyw awyrgylch, ac iddi rhyw naws aflafar. Ond y denoument yn hurt – chwerthinllyd base rhai yn dweud. Don i ddim yn credu bod e mor wael a hynny gan ystyried cyfyngder yr effeithiau arbennig.
Mae’n debyg mai un o nodweddion anarferol y ffilm ydy’r ffaith mai William Cameron Menzies oedd y cyfarwyddwr. Efe oedd y dyn a wnaeth greu a gwisgo set Gone with the Wind ynghyd a llwythi o ffilmiau eiconig eraill y 3 a phedwar degau. O’dd e’n enwog iawn yn y maes yma a ma nhw’n dweud mae fe a greodd y term ‘production designer’.
Fel comediwr wrth gwrs rydw i’n dibynnu hefyd ar ‘set’ ond un ysgrifennedig ydyw sy’n dod allan o’n ngheg. Yly!
Bwriadaf flogio mwy yn y Gymraeg. Mae rhaid ymarfer onid oes ???
i’r gweddwon rhof fy nghala
a’r hen ferched brwd ysmala
fel y cnuchient hwy eu gwala
a llesg y contia llawn.
Cal chwydlyd hyfryd yw hon – mwyn goflaid
mewn gaflau morynion
sioba yn poeri sebon.
rhowta’t hers rhad Duw ar hon.
From a far flung
Iron lung
That’s my point of view.
Ond beth yw’r pwynt o fyw
Mewn ysgyfaint
Maent mor bell ?
Y newyddion yn Gymraeg
Stwff yn y Gymraeg. Mae Noel yn gwneud jôcs. Mwy yn ddiweddarach.
Mat Hollins a fi yn Frinton heddi.